Pegynedd (cysylltiadau rhyngwladol)

Cysyniad yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yw pegynedd neu bolaredd sydd yn disgrifio sut y dosrennir grym o fewn y system ryngwladol. Mae'n awgrymu bod rhai gweithredyddion mor bwysig eu bod yn "begynau" ac mae'n rhaid i weithredyddion eraill ymateb iddynt trwy ymuno â hwy mewn clymbleidiau (megis cynghrair milwrol neu floc), ymuno â chlymbleidiau gwrthwynebol, neu ddatgan eu hunain yn amhleidiol. Mae cyflwyniad ac ymadawiad gwethredyddion pegynol ar y llwyfan ryngwladol, gan amlaf o ganlyniad i ryfel, yn newid amlinellau'r system.[1]

Yr achos amlycaf o ddeubegynedd yng nghysylltiadau rhyngwladol yw trefn ryngwladol y Rhyfel Oer, pan gafodd y ddau uwchbwer yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd feysydd dylanwad eang eu hunain.

  1. Evans a Newnham (1998), tt. 438–9.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search